Bydd Dewis Doeth yn eich helpu i benderfynu a oes angen sylw meddygol arnoch pan fyddwch yn sâl.
Mae'n esbonio beth mae pob un o wasanaethau'r GIG yn ei wneud, a phryd y dylid eu defnyddio.
Bydd dewis yn ddoeth yn golygu y cewch chi a'ch teulu y driniaeth orau. Mae hefyd yn caniatáu i wasanaethau prysuraf y GIG helpu'r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf.
Os nad ydych chi’n gwybod pa un i’w ddewis, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru : 0845 4647